Alun Michael
Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru
27 Medi 2016
Annwyl Alun,
Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrthi’n cynnal ymchwiliad ar ôl deddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
I helpu i lywio gwaith fy mhwyllgor yn y maes hwn ac mewn ymchwiliadau yn y dyfodol, rwy’n ysgrifennu at Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru i ofyn am eu blaenraglenni gwaith newydd ac i ofyn sut y mae materion ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi’u cynnwys yn y rhaglenni hyn. Byddwn yn hynod ddiolchgar os byddech yn fodlon rhannu’r wybodaeth hon i gynorthwyo’r pwyllgor â’i waith.
Mae gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau gylch gwaith eang, ac mae cydlyniant a diogelwch cymunedol yn rhan bwysig o’i waith. Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar waith y pwyllgor yn y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Edrychaf ymlaen at gael ymateb gennych maes o law.
John Griffiths AC / AM
Cadeirydd / Chair